top of page
Gus September 2021 by Bernard Mitchell 1.jpg

Ffotograff gan Bernard Mitchell, Medi 2021.

Am yr arlunydd a'i waith 

Mae Gus Payne yn artist ffiguraidd Cymreig, yn cynrychiolir gan Ffin-Y-Parc. Celfwaith ar gael hefyd yn orielau Queen Street Gallery a llefydd eraill. Celfwaith ar gael drwy gydol y flwyddyn.

​

Etholwyd ef i’r Grwp Cymreig yn 2013 (a chadeirydd yn 2018) ac mae ei waith ffiguraidd yn cynnwys paentiadau o fyd natur, anifeiliaid, adar a choed yn ogystal â ffonau symudol, hoodies, eiconograffeg crefyddol a dyfeisiadau dynol eraill. Dylanwadir ar ei ddelweddaeth amrywiol gan fyd mytholeg a chwedloniaeth, ochr yn ochr gyda’i ddiddordebau ecolegol a gwleidyddol, gan dynnu’r gwyliwr i mewn i fyd rhyfeddol ac ystyriol, wedi’i osod yng nghymoedd y de ôl-ddiwydiannol.

​

"Mae'r paentiadau yma'n llawn o gyfeiriadau crefyddol, at chwedlau, llen gwerin a'n hanes gymunol. Felly mae yna storiau a symbylau cyfarwydd sy'n ein tywys; a cynddelweddau sy'n sbarduno ymatebion emosiynnol cyntefig a greddfol. Ei allu hudol arbennig yw creu adweithiau sy'n rhaeadru trwy nifer o syniadau a chrybwylliaid er mwyn ein tynnu tuag at deimladau anghyfarwydd ac anghyfforddus.

 

"Mae e'n ymwybodol o'r tyndra a'r gwrthddywediad potensial rhwng yr elfennau ymenyddol a greddfol, ond mae cyplysiad y cyffredinol gyda'r hyn sy'n bersonol ac yn gynhenid, yn creu gwaith sy'n llawn o ymrwymiad, difrifwch ac angerdd.

 

"Mae'r cyfeiriadau cyfoes yn y lluniau yn datgelu artist sy'n mynnu ymdrin a'i gymdeithas - ei hanes a'i ddyfodol. Gall hyn rhoi blas egr, dychanol i'r gwaith. Mae ei fyd yn un sy'n fodern, ond hefyd yn glasurol. Dyma tynerwch a trais. Dyma tosturi ac anobaith, cariad a chywilydd."

 

Ffin-Y-Parc

​

C.V. ac Arddangosfeydd

bottom of page